Bwriad y wefan hwn yw cyflwyno gwybodaeth bwysig i chi am Ysgol Treferthyr. Rydym, fel tîm o weithwyr, yn awyddus i greu awyrgylch ddiogel, hapus a chyfeillgar i bob plentyn sy’n aelod o’r ysgol hon.
Ein gobaith yw cyflwyno profiadau amrywiol a pherthnasol i’r plant er mwyn iddynt feithrin a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i dyfu’n bersonau cyfrifol ac annibynnol; yn aelodau llawn o’u cymuned ac yn ddinasyddion cyfrifol. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus
Mae eich cydweithrediad fel rhieni yn bwysig dros ben yn y broses hon. Mae’n bwysig bod y cartref a’r ysgol yn cyd-weithio’n agos a chyson er mwyn sicrhau cyfleoedd addysgol gwerth chweil i’r plant.
Gobeithio’n arw bydd cyfnod eich plentyn yn Ysgol Treferthyr yn un hapus, diddorol a llwyddiannus ac edrychaf ymlaen at gyd weithio gyda chwi er budd y plant sydd yn ein gofal. Petai gennych unrhyw ymholiad neu bryder cofiwch gysylltu â ni unrhyw bryd yn yr ysgol.
Ysgol Treferthyr -
Ffordd Pwllheli, Cricieth, Gwynedd, LL52 0RR
Ffôn - 01766 522300
Ebost - dylan.roberts@treferthyr.ysgoliongwynedd.cymru