Mae gan yr ysgol Gymdeithas Cyfeillion cefnogol a llwyddiannus dros ben sydd yn gweithio’n gyson a dyfal er budd yr ysgol a’i disgyblion. Mae’r gymdeithas yn gweithio law yn llaw â staff yr ysgol i noddi gweithgareddau megis nofio, teithiau addysgol a chymdeithasol ac yn ariannu pryniant offer dysgu.
Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn ystod tymor yr
Hydref a threfnir rhaglen o weithgareddau
gogyfer â’r flwyddyn.
I weld pwy yw’r cynrychiolwyr eleni, ewch i dudalen y Gymdeithas ar weplyfr neu ebostiwch am fanylion ar cyfeilliontreferthyr@hotmail.com