Mrs Laura Battersea
Mr Nigel Wright
Mrs Sian Elfryn
Dr. Elin Pugh
Mrs Manon Haf Shakespeare
Ms. Angela Hughes
Mr Dewi Jones
Ms Angela Jones (Cyngor Tref Cricieth)
Mr Dafydd Williams
Mr Alwyn Jones
Ms Julie Roberts
Athro Lywodraethwr
Mrs. Sioned M Roberts
Mr Dylan Roberts
Ms Catherine Rhonwen Jones
Y Cynrychiolwyr Rhieni yw eich cynrychiolwyr chi ar y Corff Llywodraethol. Os oes gennych fater yr hoffech ei drafod ynglŷn â bywyd yr ysgol, dylech gysylltu â hwy neu a’r Cadeirydd yn uniongyrchol.
Mae gan y Llywodraethwyr gyfrifoldebau neilltuol.
Maent yn cyd-weithio er lles yr ysgol ac er lles addysg y plant.
Maent yn cyfarfod yn rheolaidd bob tymor -
(i) i ymateb i adroddiad y pennaeth;
(ii) i drafod a llunio polisïau / penderfyniadau (e.e. cyllideb yr ysgol; Cynllun Datblygu)
Sefydlwyd is-baneli i ymdrin â materion penodol.
Caiff Adroddiad Blynyddol ei baratoi a’i ddosbarthu gan y Corff Llywodraethol yn ystod Tymor yr Hydref.
Eich hawl i ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol
Yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 mae modd i rieni ofyn am hyd at 3 chyfarfod gyda chorff llywodraethu mewn unrhyw flwyddyn ysgol, i drafod materion sy’n peri pryder iddyn nhw.
Os yw rhieni am arfer eu hawliau dan y Ddeddf i gynnal cyfarfod, bydd angen bodloni 4 gofyniad:
1. Bydd angen i rieni gyflwyno deiseb o blaid cynnal cyfarfod
Bydd angen i rieni o leiaf 10% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol lofnodi’r ddeiseb. Yn achos deiseb ar bapur, rhaid rhoi llofnod ysgrifenedig, yn ogystal ag enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol. Os yw’r ddeiseb yn un electronig, bydd angen i riant ‘lofnodi’ drwy deipio ei enw a bydd rhaid rhoi enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol a chyfeiriad e-bost pob rhiant sy’n ‘llofnodi’r’ ddeiseb electronig.
Roedd 116 o blant wedi’u cofrestru gyda’r ysgol hon ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon. Gallwch gysylltu â swyddfa’r ysgol i gael gwybod yn union faint sydd ar y gofrestr ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
2. Rhaid galw’r cyfarfod i drafod materion sy’n effeithio ar yr ysgol
Ni ellir galw cyfarfod i drafod materion fel cynnydd disgyblion unigol, neu er mwyn gwneud cwyn yn erbyn aelod o staff yr ysgol neu aelod o’r corff llywodraethu.
Dylai’r ddeiseb gynnwys manylion cryno am y mater(ion) i’w trafod, a’r rhesymau dros alw’r cyfarfod. Dylid dangos yr wybodaeth honno’n glir ar frig y ddeiseb, a dylai’r rhieni lofnodi oddi tani.
3. Ceir cynnal uchafswm o 3 chyfarfod yn ystod y flwyddyn ysgol
Mae’r gyfraith yn caniatáu i rieni arfer eu hawliau i ofyn am hyd at 3 chyfarfod gyda chorff llywodraethu ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol.
4. Rhaid bod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol
Mae’n amod dan y gyfraith fod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol pan fo’r ddeiseb yn dod i law, a hynny fel y bo modd cynnal y cyfarfod. Ystyr “diwrnod ysgol” yw diwrnod pan fo’r ysgol yn agored i ddisgyblion: nid yw’n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, gwyliau ysgol na diwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd (HMS).
Dyma’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno deiseb yn gofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol:
Cadeirydd y Corff Llywodraethol
Ysgol Treferthyr
Cricieth
Gwynedd
LL52 0DS
Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru ynghylch sut gall rhieni fynd ati i ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu:
cliciwch yma