Bod pob disgybl yn cael cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion dwyieithog hyderus, sy’n ymfalchïo yn eu diwylliant Cymreig ac yn eu cenedligrwydd.
Mabwysiadwyd cymeriad unigryw ar gyfer y Siarter iaith yn Ysgol Treferthyr. Ei enw yw Iei ac mae’n annog disgyblion i fod yn ddwyieithog.
Llwyddodd Ysgol Treferthyr i dderbyn achrediad Wobr Aur y Siarter Iaith yn nhymor yr haf 2017.
Mae’r ysgol yn gweithio er mwyn derbyn ail achrediad Aur yng nghynllun Siarter Iaith ym Mehefin 2019.